His Dark Materials the facilities

P'un a ydych chi'n llogi criw ar gyfer eich cynhyrchiad nesaf yng Nghymru, neu'n chwilio am swyddi criw, gallwch chwilio cyfeiriadur cenedlaethol Cymru, a reolir gan ein partner Cynghrair Sgrin Cymru.

Mae ein Cyfeiriadur Cynhyrchu Cymru sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio yn gwneud bywyd yn haws i gynyrchiadau drwy gysylltu cynyrchiadau â chriw a chyfleusterau rhanbarthol yng Nghymru. Mae hefyd yn helpu i hyrwyddo busnesau yng Nghymru. O ddod o hyd i arbenigedd a thalent i ddod o hyd i gyflenwyr lleol, cewch bopeth sydd ei angen arnoch mewn un lle.

Os ydych chi'n griw llawrydd neu'n gyflenwr sydd wedi'i leoli yng Nghymru, gallwch gofrestru eich sgiliau a'ch gwasanaethau ar Gyfeiriadur Cynhyrchu Cymru a manteisio ar y cyfleoedd diweddaraf. Os ydych eisoes wedi cofrestru, gwiriwch fod eich manylion yn gywir ac yn gyfredol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyfeiriadur, gall tîm Cynghrair Sgrin Cymru eich helpu, cysylltwch â nhw yma: Contact Us | Screen Alliance Wales

Cyfeiriadur Cynhyrchu Cymru

Llety

Mae gan wefan Croeso Cymru gyfoeth o wybodaeth llety ledled Cymru, os ydych ynau’n chwilio am westai neu fflatiau wedi eu gwasanaethu. Gallwch chwilio am lety sydd ar gael yma.

Neu, cysylltwch â Sgrin Cymru yn uniongyrchol am gyngor neu wybodaeth bellach am lety yng Nghymru.

Oes gennych ymholiad ffilmio? Cysylltu â'r tîm heddiw