Trosolwg y gronfa

Bydd Cronfa newydd Cymru Greadigol ar gyfer Cynnwys i’r Ifanc yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau dwyieithog, o fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, i ysgogi darpariaeth a nifer y rhaglenni ar gyfer plant a chynulleidfaoedd ifanc hyd at, a chan gynnwys, 18 oed, ym maes gweithredu byw ac animeiddio, ac ar draws pob genre gan gynnwys adloniant, addysg, comedi, drama, y celfyddydau a diwylliant a ffeithiol.

Rydym yn edrych at ddarparu cyllid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu syniadau a fydd yn diddanu, yn hysbysu ac yn cyffroi cynulleidfaoedd ifanc ac mae gennym farn glir ar chwaeth a dewisiadau'r cynulleidfaoedd targed, gan gynnwys y gwasanaeth y byddent yn ei ddefnyddio i gael gafael arno. Nid yw’r dyfarniadau yn ad-daladwy a byddant yn darparu 100% o'r gyllideb ddatblygu.  Ymhlith y mathau o gost sy’n gallu cael eu talu gan y cyllid hwn mae datblygu triniaethau, dogfennau gwerthu syniad, canllawiau triniaeth cyfres, fformatau, sgriptiau, cynlluniau peilot, profion animeiddio a deunyddiau eraill sydd eu hangen ar gyfer gwerthu syniad i ddarlledwyr a sicrhau eu hymrwymiad.

Mae cyllid datblygu wedi'i gynllunio i alluogi busnes i gyrraedd sefyllfa lle y gallai ariannu ei dwf parhaus ei hun. Ni fwriedir iddo fod yn gronfa ailadroddus, yn hytrach disgwylir i’r cyfle gael ei ddefnyddio i wneud newid sylweddol i refeniw'r busnes sy'n cael effaith hirdymor a pharhaol. 

Mae £300,000 ar gael ar gyfer prosiectau yn y rownd ariannu hon. Bydd uchafswm o £50,000 ar gael ar gyfer pob prosiect llwyddiannus.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

  • Cwmnïau cynhyrchu annibynnol a leolir yng Nghymru.
  • Rhaid i gwmnïau fod â hanes h.y. wedi cynhyrchu prosiect teledu blaenorol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sydd wedi cael ei ddosbarthu'n fasnachol o fewn y tair blynedd diwethaf.  Bydd hanes unigol cyfarwyddwr / prif swyddog gweithredol a/neu gyfranddaliwr y cwmni hefyd yn dderbyniol
  • Rhaid i gyfeiriad prif swyddfa cwmnïau sy’n gwneud cais fod yng Nghymru
  • Rhaid i gwmnïau sy'n gwneud cais feddu ar hawliau mwyafrifol y prosiect (yn achos cyd-gynyrchiadau, rhaid iddynt fod yn berchen ar o leiaf 50% o'r hawliau)
  • Caiff y cwmni sy'n gwneud cais fod yn unrhyw faint, ond rhaid iddo fod yn gwmni cynhyrchu annibynnol sydd â chod SIC (Dosbarthiad Diwydiannol Safonol) sy'n dangos mai cynhyrchu yw ei brif weithgaredd
  • Ni allwn gefnogi ceisiadau gan unigolion oni bai bod ganddynt gwmni sefydledig sydd â chod SIC perthnasol.  Dim ond perchnogion cyfreithiol y cwmni cynhyrchu fydd yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn.

Amodau ychwanegol

Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau sy’n gallu dangos y canlynol:

  • Eu bod yn bodloni ein hegwyddorion ariannu allweddol ac yn meddu ar y potensial i greu twf hirdymor
  • Mae prosiectau sy'n gallu dangos llwybr i gyrraedd y farchnad yn ddymunol.

Meini prawf technegol hanfodol:

  • Rhaid i’r prosiect fod yn ddwyieithog – ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Rhaid i’r prosiect fod i’w ddarlledu ar y teledu ac wedi’i fwriadu ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, hyd at 18 oed
  • Llywio ein dealltwriaeth o'r byd – i roi gwybod i ni ein hunain ac eraill a chynyddu ein dealltwriaeth o'r byd drwy newyddion, gwybodaeth a dadansoddiad o ddigwyddiadau a syniadau cyfredol
  • Ysgogi gwybodaeth a dysgu – er mwyn ysgogi ein diddordeb a’n gwybodaeth am y celfyddydau, gwyddorau’r celfyddydau, gwyddoniaeth, hanes a phynciau eraill, drwy gynnwys sy'n hygyrch ac sy'n gallu annog dysgu anffurfiol
  • Adlewyrchu hunaniaeth ddiwylliannol y DU – i adlewyrchu a chryfhau ein hunaniaeth ddiwylliannol drwy raglenni gwreiddiol ar lefel y DU, ar lefel genedlaethol a rhanbarthol; yn dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd i rannu profiadau o bryd i’w gilydd
  • Cynrychioli amrywiaeth a safbwyntiau amgen – i'n gwneud yn ymwybodol o wahanol ddiwylliannau a safbwyntiau amgen, drwy raglenni sy'n adlewyrchu bywydau pobl eraill a chymunedau eraill, o fewn y DU a mannau eraill.
  • Rhaid i’r prosiect fod yn rhaglen hyd llawn, nid rhaglen cynnwys byr.

Sut i wneud cais

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen Canllawiau'r Gronfa yn y lle cyntaf, i ystyried a oes gennych brosiect cymwys.

Mae'r cronfa hon ar agor am gynigion am gyllid o Ddydd Mawrth 20 Rhagfyr 2022, ac yn cau i geisiadau ddydd Llun 16 Ionawr 2023 am hanner dydd. Nid ystyrir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd yn hwyr.

Cyn gwneud cais, mae gennych yr opsiwn i drafod eich cynnig ag un o Reolwyr Datblygu Sector Cymru Greadigol. Gall ein tîm roi cyngor mewn perthynas â chymhwysedd a, lle bo hynny'n briodol, roi arweiniad pellach ar eich cynnig. Noder – nid yw trafod eich prosiect ag aelod o'r tîm yn awgrymu y bydd eich cynnig yn cael ei gymeradwyo neu ei asesu. Mae hwn yn gynllun cystadleuol lle bydd pob prosiect yn cael ei asesu a'i sgorio yn erbyn meini prawf safonol.

I gael mwy o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais anfonwch e-bost at CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru