Hysbysiad preifatrwydd marchnata ac ymchwil ar gyfer rhanddeiliaid Cymru Creadigol
Mae tîm Cymru Greadigol yn parchu ac yn dymuno diogelu preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Fel rhan o'n gwaith, weithiau bydd angen i ni brosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch chi.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data a byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth i ddarparu cymorth busnes a chyfleoedd datblygu busnes parhaus a allai fod o fudd i'ch cwmni. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth yw'n tasg gyhoeddus; hynny yw, Erthygl 6(1)(e) o'r GDPR: mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn Llywodraeth Cymru. Gallai maint y gefnogaeth gynnwys; cyngor, gwybodaeth ac arweiniad.
Pan fyddwn yn marchnata ein gwasanaethau i chi, dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn gwneud hynny.
Cyfeiriwch hefyd at Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru - Hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru | LLYWODRAETH. CYMRU
Newyddlen marchnata diwydiannau creadigol Cymru Greadigol
Os byddwch yn cofrestru i gael Newyddlen Marchnata Diwydiannau Creadigol Cymru Greadigol, ni fyddwn yn defnyddio’ch data personol ond i weinyddu’ch cyfrif a darparu’r cynhyrchion a’r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt.
Byddwn yn anfon newyddion a gwybodaeth atoch am y diwydiannau creadigol yng Nghymru yr ydym yn teimlo a fydd o ddiddordeb ichi o bryd i’w gilydd gan gynnwys astudiaethau achos, mentrau a digwyddiadau newydd y gall fod gennych ddiddordeb ynddynt gan ddibynnu ar eich rôl, eich cwmni a’ch lleoliad. Bydd yr wybodaeth hon wedi'i hanelu'n benodol at sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, gan adeiladu ar lwyddiant presennol a datblygu talent a sgiliau newydd, gyda chenhadaeth i leoli Cymru fel un o’r lleoedd gorau i fusnesau creadigol ffynnu.
Ymchwil rhanddeiliaid Cymru Greadigol
Byddwn yn cynnig y cyfle ichi gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella ein gwasanaethau a’n polisïau. Mae llenwi'r holiaduron arolwg hyn yn wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei rhannu â chwmni ymchwil sydd o dan gontract i’w gwerthuso ar ein rhan. Os ydych wedi cytuno y gellir cysylltu â chi at ddibenion ymchwil, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich dewis i dderbyn arolygon ymchwil dilynol sy’n gysylltiedig â diwydiannau creadigol o bryd i’w gilydd.
Rydych yn rhydd i ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen datdanysgrifio mewn unrhyw e-bost a dderbyniwch oddi wrthym, neu gallwch anfon e-bost atom yn cymrugreadigol@llyw.cymru.
Gan ddilyn arferion safonau’r diwydiant, pan fyddwch yn datdanysgrifio caiff eich cyfeiriad e-bost ei gadw ar restr atal i sicrhau na fyddwch yn cael e-byst gan Cymru Greadigol mwyach.
Pwy fydd â mynediad
Bydd eich data personol yn cael eu cadw'n ddiogel ac ni fyddant yn cael eu rhannu â 3ydd parti oni bai eu bod yn darparu gwasanaethau ar ran Llywodraeth Cymru at y dibenion a restrir uchod.
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Mae data personol a ddarperir i Gymru Greadigol yn cael ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac mae eich data personol yn cael eu storio mewn ffolder gyfyngedig ac wedi'u cyfyngu i'r aelodau staff uniongyrchol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i'w dilyn os amheuir bod y rheolau diogelwch data wedi'u torri. Os amheuir bod rheol diogelwch data wedi'i thorri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fo’n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Eich hawliau
- O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch, a’u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch a cymrugreadigol@llyw.cymru
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog diogelu data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Cewch hefyd anfon cwyn at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data yn y DU:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Llinell Gymorth: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk