Mae Technoleg Greadigol yn cwmpasu deallusrwydd artiffisial, cynhyrchu cyfryngau rhithiol, dysgu peirianyddol, technoleg peiriannau gemau a llu o ddisgyblaethau arloesol eraill. Dyma'r gofod lle mae'r diwydiannau creadigol a thechnolegol yn plethu – ac mae'n sector gymhleth sy'n datblygu'n gyflym yng Nghymru.

Mae cefnogi Technoleg Greadigol yn flaenoriaeth strategol. Mae cwmnïau yng Nghymru wedi bod yn darganfod technoleg ymgolli gan ddefnyddio Realiti Estynedig (AR - augmented reality), Rhith-Realiti (VR - virtual reality) a Realiti Cymysg (MR - mixed reality). Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys efelychydd paragleidio hynod realistig Frontgrid, ac anturiaethau rhithiol Fictioneers ym myd Wallace and Gromit.

Mae Technoleg Greadigol yn fwy nag allwedd ar gyfer dyfodol adloniant. Mae'n prysur brofi ei photensial i drawsnewid pob agwedd o'n bywydau, o addysg a hyfforddiant i ofal a lletygarwch.

Yng Nghymru, mae cwmnïau'n adeiladu bydoedd newydd sbon o dechnoleg ymgolli. Rydym yn eu helpu i drawsnewid y diwydiant creadigol a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd ac arloesol.

Cadwch mewn cysylltiad

Eisiau derbyn y newyddion diweddaraf am y sectorau creadigol? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.